The Sound of Music (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Robert Wise |
| Cynhyrchydd | Robert Wise |
| Ysgrifennwr | Hunangofiant: Maria von Trapp Llyfr y Sioe gerdd: Howard Lindsay Russel Crouse Sgript: Ernest Lehman |
| Serennu | Julie Andrews Christopher Plummer |
| Cwmni Cynhyrchu | 20th Century Fox |
| Dyddiad rhyddhau | 2 Mawrth, 1965 |
| Amser rhedeg | 174 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Ffilm gerddorol yw The Sound of Music a ysgrifennwyd gan Rodgers a Hammerstein ym 1965. Mae'n serennu Julie Andrews fel y prif gymeriad. Seiliwyd y ffilm ar sioe gerdd Broadway, ac ysgrifennwyd y llyfr cerddorol gan Howard Lindsay a Russel Crouse. Ernest Lehman ysgrifennodd y sgript.
Yn wreiddiol, seiliwyd y sioe gerdd ar y llyfr The Story of the Trapp Family Singers gan Maria von Trapp. Mae'n cynnwys nifer o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys "Edelweiss," "My Favorite Things," "Climb Ev'ry Mountain," "Do-Re-Mi," "Sixteen Going on Seventeen," a "The Lonely Goatherd," yn ogystal â'r gân sy'n dwyn teitl y ffilm.
Fe'i ffilmiwyd yn Salzburg, Awstria a Bafaria yn Ne'r Almaen yn ogystal ag yn stiwdios 20th Century Fox yng Ngahilffornia.