Afon Salzach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Salzach ger Ostermiething

Afon yn Awstria sy'n llifo i mewn i afon Inn yw afon Salzach. Mae'n tarddu yn Alpau Kitzbüheler gerllaw Salzachgeier yn ardal Krimml, ac yn llifo am 225 km i gyfarfod afon Inn ger Haiming. Am 59 km, mae'n ffurfio'r ffîn rhwng yr Almaen ac Awstria.

Y ddinas bwysicaf ar yr afon yw Salzburg. Caiff y ddinas a'r afon eu henwau o'r fasnach halen, fu'n bwysig yma hyd y 18fed ganrif.