Afon Inn
Oddi ar Wicipedia
Afon yn nghanolbarth Ewrop yw afon Inn (Lladin: Aenus, Groeg: Ainos, Reto-Romaneg: En). Mae'n 517 km o hyd, ac yn llifo trwy'r Swistir, Awstria a'r Almaen cyn llifo i mewn i afon Donaw.
Ceir tarddiad yr Inn 2645 medr uwch lefel y môr ym Mwlch Maloja yng nghanton Graubünden yn y Swistir. Mae'n llfo trwy'r Tirol yn Awstria, lle mae'n rhoi ei henw i brifddinas y dalaith, Innsbruck. Ger Kufstein mae'n gadael Awstria ac yn llifo i dalaith Bafaria yn yr Almaen. Yr afon yw'r ffîn rhwng yr Almaen ac Awstria yn yr ardal yma, Mae'n uno ag afon Donaw yn Passau.
[golygu] Dinasoedd a threfi ar afon Inn
- Y Swistir: St. Moritz
- Awstria: Landeck, Imst, Innsbruck, Hall in Tirol, Schwaz, Rattenberg, Wörgl, Kufstein, Braunau am Inn, Schärding
- Yr Almaen: Rosenheim, Wasserburg am Inn, Mühldorf am Inn, Neuötting, Marktl am Inn, Simbach am Inn, Passau