Symffoni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Darn cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw symffoni. Datblygodd y symffoni glasurol o ganol y 18fed ganrif ymlaen yn nwylo cyfansoddwyr fel Joseph Haydn a Mozart. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf sonata, yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn minuet a trio, a'r pedwerydd yn gyflym.

Ymestynodd Beethoven ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu corws a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r Mudiad Rhamantaidd yn y 19eg ganrif a chyfansoddwyr fel Schubert, Schumann, Johannes Brahms, Mendelssohn, Dvorak a Tchaikovsky, tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol.

Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r ugeinfed, daeth cyfansoddwyr fel Anton Bruckner a Gustav Mahler â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan gerddorfeydd mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft.

Ond gyda chyfansoddwyr fel Sibelius troes y symffoni'n fwy cryno, mwy pur yn ei helfennau a llai cyfyng ei strwythr: symffoni un symudiad yw 7fed Symffoni Sibelius er enghraifft.

Yn ail hanner yr 20fed ganrif cafwyd amrywiaeth mawr ym myd y symffoni, o gerddoriaeth dra-fodern Dmitri Shostakovich i arddulliau arbrofol, minimalaidd y to newydd.

Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.