Ysgol Dyffryn Nantlle
| Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle | |
|---|---|
| Arwyddair | Delfryd dysg, cymeriad |
| Sefydlwyd | 1898 |
| Math | Uwchradd |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Lleoliad | Ffordd y Brenin, Penygroes, Gwynedd, Cymru, LL54 6AA |
| AALl | Cyngor Gwynedd |
| Disgyblion | 558 |
| Rhyw | Merched a bechgyn |
| Oedrannau | 11–18 |
Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhenygroes, Gwynedd, ydy Ysgol Dyffryn Nantlle. Sefydlwyd yr ysgol ym 1898 fel Ysgol Ramadeg Penygroes ar y safle lle saif ysgol gynradd y pentref, sef Ysgol Bro Lleu heddiw.
Arwyddair yr ysgol ydy Delfryd dysg, cymeriad.
Roedd 558 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006.[1] Gall 91% o'r disgyblion siarad Cymraeg i lefel iaith gyntaf, er mai 78% sy'n dod o gartrefi lle'r Cymraeg yw'r brif iaith.[2]
Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Dyffryn Nantlle ydi un o'r Eisteddfodau Ysgol hynaf yng Nghymru, a gynhelir ar ddiwedd mis Hydref. Yn Rhagfyr 2008, fe wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn cyngerdd ynghyd â Bryn Terfel yn Galeri, Caernarfon; gan ganu chwe chân newydd â gomisiynwyd gan Robat Arwyn - yn dwyn y teitl: 'Yn d'Olau di'.
Cynnwys |
[golygu] Cyn-ddisgyblion
Ymysg ei chyn-ddisgyblion o nod mae:
- Robat Arwyn
- Mari Emlyn
- Bryn Fôn
- Dafydd Glyn Jones
- Wynfford Ellis Owen
- Gerallt Pennant
- Cefin Roberts
- Bryn Terfel
- Angharad Tomos
- Aled Jones Williams
[golygu] Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
- Ysgol Bronyfoel (Y Fron)
- Ysgol Brynaerau (Pontllyfni/Clynnog Fawr)
- Ysgol Carmel (Carmel)
- Ysgol Groeslon (Y Groeslon)
- Ysgol Llanllyfni (Llanllyfni)
- Ysgol Baladeulyn (Nantlle)
- Ysgol Nebo (Nebo & Nasareth)
- Ysgol Bro Lleu (Penygroes)
- Ysgol Talysarn (Talysarn)
- Ysgol Rhosgadfan (Rhosgadfan)