Aled Jones Williams
Offeiriad yr Eglwys yng Nghymru, llenor a dramodydd Cymreig yw Aled Jones Williams (ganed tua 1956).
Yn 2002, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 gydag Awelon.[1] Cafodd ei lyfr Ychydig Is Na’r Angylion ei enwebu ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Achoswyd cryn ymryson gan ei ddrama Iesu! yn 2008, gan iddo bortreadu Iesu fel merch.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Ganwyd Aled Jones Williams yn Llanwnda ger Caernarfon, yn unig blentyn i R. E. a Megan Williams. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynychu Prifysgol Bangor a graddio ym 1977. Aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Mihangel, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Fe ordeinwyd i'r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth gadawodd yr eglwys, daeth yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl gan rannu ei fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl. Yn ystod ei gyfnod yno y priododd â Susan. Mae ganddyn nhw dri o blant: Marc, Bethan a Gwydion.[1] Mae'n byw ym Mhorthmadog erbyn hyn.[2]
Dramâu [golygu]
- Ta-ra Teresa, 2002 (Theatr Gwynedd)
- Be' O'dd Enw Ci Tintin, Tachwedd 2003 (Theatr Bara Caws)
- Lysh, Gorffennaf 2004 (Theatr Bara Caws)
- Disgwl Bys yn Stafell Mam: Chwech o Ddramau, Mawrth 2006 (Gwasg y Bwthyn)
- Iesu!, Gorffennaf 2008 (Gwasg Gomer)
Llyfryddiaeth [golygu]
- Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun, Mai 2001 (Gwasg Pantycelyn)
- Oerfel Gaeaf Duw, Hydref 2002 (Gwasg Pantycelyn)
- Ychydig Is Na’r Angylion, Tachwedd 2006 (Gwasg y Bwthyn)
- Yn Hon Bu Afon Unwaith, Awst 2008 (Gwasg y Bwthyn)
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Offeiriad yn cipio'r Goron. BBC (2002-08-05).
- ↑ Bywgraffiad Aled Jones Williams. Gwasg Gomer.