Gwasg Gomer
Oddi ar Wicipedia
Gwasg Gomer yw un o'r cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg mwyaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1908 gan yr argraffydd a chyhoeddwr John David Lewis (1859 - 1914), ar sail busnes argraffu a ddechreuwyd ganddo ym 1892 yn Llandysul, Ceredigion; mae'r wasg yn dal i gael ei rhedeg yn y pentref heddiw. Fe'i henwir ar ôl yr awdur Joseph Harris (Gomer) (1773-1825).
Ehangodd y wasg trwy brynu Gwasg Aberystwyth ym 1945. Dros y blynyddoedd mae enw Gwasg Gomer wedi bod yn gysylltiedig â rhai o awduron mwyaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys D. J. Williams, T Llew Jones, T. H. Parry-Williams, Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes a Waldo Williams.
Dolenni allanol [golygu]
- [1] Gwefan Gomer