Llandaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o faesdrefi (a chymuned yn ninas Caerdydd yn ne Cymru yw Llandaf. Y mae hefyd yn rhoi ei henw i un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, a fu yn hanesyddol gyda'r rhai tlotaf yng Nghymru a Lloegr, ond sydd erbyn hyn yn cwmpasu'r ardal fwyaf poblog yn ne Cymru. Dominyddir Llandaf gan yr Eglwys Gadeiriol, a gerllaw y mae adfeilion Llys yr Esgob, a'i ddinistriwyd gan Owain Glyndŵr.

Ymhlith yr enwogion a enwyd yno y mae'r awdur Roald Dahl a'r gantores Charlotte Church; cawsant hefyd eu haddysgu yn ysgolion bonedd Llandaf. Y mae pencadlys y BBC yng Nghymru yn Llandaf. Gwasanaethir yr ardal gan orsaf trenau Llandaf, sydd mewn gwirionedd yn ardal Ystum Taf.

Hanes[golygu]

Ymwelodd Gerallt Gymro â Llandaf yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandaf (pob oed) (8,997)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandaf) (1,337)
  
15.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandaf) (6464)
  
71.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llandaf) (1,150)
  
30.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Gweler hefyd[golygu]


Cymunedau Caerdydd

Adamsdown | Caerau | Castell | Cathays | Cyncoed | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan'rafon | Grangetown | Llandaf | Llanisien | Llanrhymni | Llys-faen | Y Mynydd Bychan | Pentref Llaneirwg | Pen-twyn | Pen-tyrch | Pen-y-lan | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Tongwynlais | Trowbridge | Tyllgoed | Ystum Taf