Angharad Tomos

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Angharad Tomos
Geni Angharad Tomos
1958
Bangor, Gwynedd, Cymru
Galwedigaeth Nofelydd,
Addysg Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle.
Gwaith nodedig Si Hei Lwli, Wele'n Gwawrio, Titrwm
Cymar Ben Gregory


Awdures ac ymgyrchydd iaith yw Angharad Thomas (ganed 1958).

Fe'i ganed ar 19 Gorffennaf 1958 ym Mangor, Gwynedd, a chafodd ei magu gyda'i pum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.

Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt. Cafodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith.

Yn ogystal, mae hi'n ysgrifennu a dylunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng ngwlad y Rwla.

Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes, Gwynedd.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Dolenni allanol

Offer personol
Ieithoedd eraill