Henry Morton Stanley
Newyddiadurwr a fforiwr yn Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (29 Ionawr 1841 - 10 Mai 1904), a anwyd yn Ninbych.
Ei enw bedydd oedd John Rowlands. Roedd yn blentyn llwyn a pherth ac fe'i magwyd mewn tloty yn Llanelwy sydd bellach yn ysbyty (Ysbyty H. M. Stanley). Gweithiodd ei ffordd ar long i Unol Daleithiau America. Roedd yn ohebydd ac mae mwyaf enwog am ddod o hyd i'r cenhadwr David Livingstone a oedd ar goll yn Affrica. Yn ôl yr hanes, pan gyfarfu'r cenhadwr coll llefarodd y geiriau enwog "Dr. Livingstone, I presume?". Ysgrifenodd dri llyfr am ei daith yn Affrica i ddarganfod Livingstone, a daethant i fod yn werthwyr gorau eu cyfnod.
Roedd yn un o sefydlwyr Gwladwriaeth Rydd y Congo. Rhoddodd ei enw i nifer o nodweddion daearyddol, er bod enwau rhai ohonynt wedi ei newid yn ddiweddarach; "Stanleyville" oedd hen enw dinas Kisangani, a "Rhaeadr Stanley" oedd hen enw Rhaeadr Boyoma yn y Congo. Mynydd Stanley, ar y ffîn rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac Uganda, yw'r trydydd mynydd yn Affrica o ran uchder.
Llyfryddiaeth [golygu]
Llyfrau Stanley [golygu]
- How I found Livingstone (1872)
- Through the Dark Continent (1878)
- In Darkest Africa (1890)
- Autobiography (1909)
Llyfrau amdano [golygu]
- ?Thomas Gee (dienw), Henry Moreton Stanley (1890)