Rhyfel Cartref America

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map of U.S. showing two kinds of Union states, two phases of secession and territories.
Statws y Taleithiau, 1861.
      Taleithiau a ataliodd cyn 15 Ebrill 1861       Taleithiau a ataliodd wedi 15 Ebrill 1861       Taleithiau ble roedd caethwasiaeth yn gyfreithlon       Taleithiau'r Undeb, ble roedd caethweisiaeth yn anghyfreithlon       Ardaloedd niwtral

Ymladdwyd Rhyfel Catref America (1861 - 1865) rhwng Unol Daleithiau America ac unarddeg talaith yn y De oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.

Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi.

Jefferson Davis, unig Arlywydd y De

Erbyn 1864 yr oedd y diwedd yn nesau, wrth i fanteision yr Undeb o ran poblogaeth fwy ac ecomomi gryfach ddechrau cael effaith. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Yn 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomatox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.

Nodyn diddorol yw y dywedir fod y ddau Arlywydd oedd yn gwrthwynebu ei gilydd yn y rhyfel, Abraham Lincoln a Jefferson Davis, o dras Cymreig.

Ffilmiau am y rhyfel[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Darllen pellach[golygu]

  • Jerry Hunter, Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (2003). Hanes y Cymry a ymladdodd yn y rhyfel cartref.
  • Keegan, John. The American Civil War: A Military History (Llundain, Vintage, 2009).