Atlanta, Georgia
Oddi ar Wicipedia
| Atlanta | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Georgia | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Georgia |
| Llywodraeth | |
| Maer | Kasim Reed |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 343.0 km² |
| Uchder | 225-320 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 537,958 (Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 1,514 /km2 |
| Metro | 5,376,290 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
| Cod Post | 30060, 30301-30322, 30324-30334, 30336-30350, 30353 |
| Gwefan | http://www.atlantaga.gov |
Atlanta yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Georgia yn yr Unol Daleithiau. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 519,145. Yn y 1990au a'r 2000au, roedd Atlanta ymhlith y dinasoedd oedd yn tyfu gyflymaf yn y byd datblygedig.
Tyfodd y ddinas o gwmpas pen dwyreiniol rheilffordd y penderfynwyd ei hadeiladu yn 1836. Roedd y tiroedd yn yr ardal gynt yn perthyn i'r Cherokee, ond gyrrwyd hwy allan ohonynt yn 1838 a 1839. Erbyn cyfnod Rhyfel Cartref America, roedd Atlanta yn ganofan strategol bwysig. Cipiwyd y ddinas dros y Gogledd gan William T. Sherman ar 2 Medi, 1864, a dinistriwyd rhan helaeth ohoni yn yr ymladd.
Yn Atlanta y cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1996, ac mae pencadlys Cwmni Coca-Cola yma.