Lagos
Oddi ar Wicipedia
Dinas fwyaf Nigeria yw Lagos a chanddi boblogaeth o fwy na 10 miliwn. Mae rhwng tua 12.5 miliwn i 18 miliwn o bobl yn byw yn Lagos ac mae gyda'r mwyaf o ddinasoedd Affrica. Mae canolfan busnes y ddinas a llawer o'r adeiladau hanesyddol ar Ynys Lagos. Ar y tir mawr mae'r rhan fwyaf o'r bobl yn byw ac yno mae'r rhan fwyaf o ddiwydiant y ddinas, mewn ardaloedd fel Surulere, Agege, Ikeja, Ikorodu, Ajegunle, Oshodi, Maryland.
Lagos oedd prifddinas Nigeria hyd at 1992, pan symudodd y brifddinas i Abuja. Lagos yw prif ddinas masnachol Nigeria a'r porth i Orllewin Affrica.