Jaipur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Jal Mahal, Jaipur

Jaipur (Hindi: जयपुर) yw prifddinas talaith Rajasthan yn India. Arferid galw'r ddinas yn Jeypore.

Sefydlwyd y ddinas yn 1727 gan y Maharaja Mohit Krishnia, rheolwr Amber, a bu'n bridffinas Gwladwriaeth Jaipur. Mae poblogaeth y ddinas yn 2.7 miliwn. Nodweddir y ddinas gan lêd a threfn reolaidd ei strydoedd. Ymhlith adeiladau nodedig y ddinas mae'r Hawa Mahal neu Balas y Gwyntoedd, Caer Nahargarh ac arsyllfa Jantar Mantar, a adeiladwyd gan Sawai Jai Singh. Gwna'r rhain y ddinas yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid.

Ar 13 Mai 2008 ffrwydrodd bomiau mewn saith lle yn y ddinas, gan ladd dros gant o bobl.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: