Dodoma

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dodoma
Downtown dodoma.jpg
Tanzania Dodoma.png
Lleoliad Rhanbarth Dodoma
Gwlad Tanzania
Ardal Rhanbarth Dodoma
Llywodraeth
Maer Francis Mazanda
Daearyddiaeth
Arwynebedd 2,576 km²
Uchder 1,135 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 324,347 (Cyfrifiad 2002)
Dwysedd Poblogaeth 125.9 /km2
Gwybodaeth Bellach
Gwefan Bwrdd Twristiaeth Tanzania: Dodoma

Prifddinas swyddogol Tanzania yw Dodoma. Fe'i lleolir yn Rhanbarth Dodoma yng nghanolbarth y wlad, tua 486 km i'r gorllewin o'r gyn-brifddinas Dar es Salaam a 441 km i'r de o Arusha. Roedd ganddi boblogaeth o tua 324,000 yn 2002. Y bobl Gogo, Rangi, Sandawe a Burunge yw prif grwpiau ethnig yr ardal.

Roedd Dodoma yn safle pwysig ar y rheilffordd rhwng Cefnfor India a Llyn Tanganyika yn hanesyddol. Fe'i datganwyd yn brifddinas Tanzania ym 1974 a symudodd y Cynulliad Cenedlaethol yno ym 1996 ond mae llawer o swyddfeydd y llywodraeth yn aros yn Dar es Salaam.

Flag of Tanzania.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Tanzania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato