Rajasthan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleoliad Rajasthan yn India

Mae Rājasthān (Devanāgarī: राजस्थान) yn dalaith yng ngorllewin India. Hi yw'r fwyaf o daleithiau India o ran arwynebedd, 342,239 km² (132,139 mi²) ond mae'n cynnwys Anialwch Thar. Mae'n ffinio a Pakistan yn y gorllewin, Gujarat yn y de-orllewin, Madhya Pradesh yn y de-ddwyrain, Uttar Pradesh a Haryana yn y gogledd-ddwyrain a Punjab yn y gogledd. Roedd y boblogaeth yn 56.47 miliwn yn 2001.

Prifddinas y dalaith yw Jaipur. Yn nwyrain y dalaith mae nifer o barciau cenedlaethol adnabyddus am eu bywyd gwyllt; Ranthambore a Sariska am deigrod a Parc Cenedlaethol Keoladeo ger Bharatpur am adar.

Ffurfiwyd Rajasthan ar 30ain Mawrth 1949, pan unwyd y gwladwriaethau tywysogaethol yn India; mae'n cyfateb yn fras i'r hen Rajputana. O ran crefydd, mae 88.8% o drigolion Rajasthan yn ddilynwyr Hindwaeth, 8.5% yn dilyn Islam, 1.4% yn Sikhiaid a 1.2% yn ddilynwyr Jainiaeth. Mae'r mwyafrif yn siarad yr iaith Rajasthani fel iaith gyntaf.


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJammu a KashmirJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliTiriogaeth Genedlaethol DelhiDaman a DiuLakshadweepPuducherry (Pondicherry)