Gujarat
Oddi ar Wicipedia
Mae Gujarāt (Gujarātī: ગુજરાત) yn dalaith yng ngorllewin India. Mae'n ffinio ar Pakistan yn y gorllewin, Rajasthan yn y gogledd-ddwyrain, Madhya Pradesh yn y dwyrain a Maharashtra a Diu, Daman a Dadra a Nagar Haveli yn y de.
Gujarat yw'r fwyaf diwydiannol o daleithiau India, ac mae'n gyfrifol am 19.8% o holl gynnyrch diwydiannol y wlad. Mae incwm y pen yn 2.47 gwaith y cyfartaledd i India gyfan. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 50,596,992.
Y brifddinas yw Gandhinagar, dinas wedi ei chynllunio'n bwrpasol ac wedi ei henwi ar ôl yr enwocaf o feibion Gujarat, Mahatma Gandhi. Y ddinas fwyaf yn y dalaith yw Ahmedabad. Iaith swyddogol y dalaith yw Gujarati, ac mae'r mwyafrif o'r trigolion yn ddilynwyr Hindwaeth.
Yn Ionawr 2001 effeithiwyd ar Gujarat gan ddaeargryn mawr, a laddodd tua 10,000 o bobl.