Assam

Oddi ar Wicipedia
Assam
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
LL-Q33965 (sat)-Rocky 734-ᱟᱥᱟᱢ.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasDispur Edit this on Wikidata
Poblogaeth31,205,576 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ionawr 1950 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHimanta Biswa Sarma Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Asameg, Bodo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd78,438 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNagaland, Arunachal Pradesh, Manipur, Meghalaya, Tripura, Gorllewin Bengal, Mizoram, Sylhet Division Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26°N 93°E Edit this on Wikidata
IN-AS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolAssam Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholAssam Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBanwarilal Purohit Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Assam Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHimanta Biswa Sarma Edit this on Wikidata
Map

Mae Assam neu Asám[1] yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Arwynebedd y dalaith yw 78,438 km sgwar, tua'r un faint ag Iwerddon. Roedd y boblogaeth yn 26,655,528 yn 2001. Ei phrifddinas yw Dispur, rhan o Guwahati. Mae'n ffinio â thaleithiau Indiaidd Arunachal Pradesh, Nagaland, Manipur, Mizoram, Tripura a Meghalaya, a hefyd â Bhwtan i'r gogledd a Bangladesh i'r de. Y prif grefyddau yw Hindwaeth (63.13%) ac Islam (32.43%). Tua diwedd y 1980au ac yn y 1990au bu galw am fwy o ymreolaeth gan gymuned y Bodo a thyfodd grwpiau arfog megis yr United Liberation Front of Assam (ULFA), sy'n galw am annibyniaeth i Assam, a'r National Democratic Front of Bodoland (NDFB) sy'n galw am greu talaith ymreolaethol Bodoland o fewn Assam.

Mae'r dalaith yn adnabyddus am de Assam (tyfir 60% o de India yno), ac am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys y Rheinoseros Indiaidd ym Mharc Cenedlaethol Kaziranga. Mae'r afon Brahmaputra yn llifo trwy'r dalaith.

Lleoliad Assam yn India

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.