Gandhinagar

Oddi ar Wicipedia
Gandhinagar
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMahatma Gandhi Edit this on Wikidata
LL-Q1571 (mar)-Neelima64-गांधीनगर.wav, LL-Q33810 (ori)-Psubhashish-ଗାନ୍ଧୀନଗର.wav, LL-Q1571 (mar)-Vj18081991-गांधीनगर.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth195,891 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iDubai Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGandhinagar district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd177 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr81 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.223°N 72.65°E Edit this on Wikidata
Cod post382010 Edit this on Wikidata
Map
Rhan o Gandhinagar

Prifddinas talaith Gujarat yn India yw Gandhinagar (Gujarati: ગાંધીનગર ). Fe'i lleolir tua 23 km i'r gogledd o Ahmedabad, dinas fwyaf Gujarat, tua hanner ffordd ar y coridor diwydiannol sy'n cysylltu Delhi, prifddinas India, a Mumbai, 464 km i'r gorllewin. Mae'n ddinas newydd gynlluniedig sydd wedi'i henwi ar ôl Mahatma Gandhi (ystyr nagar yw 'dinas').

Gorwedd y ddinas newydd ar lan orllewinol Afon Sabarmati. Rhennir y ddinas yn 30 ardal neu sector sy'n ymestyn mewn cylch o gwmpas canolfan Llywodraeth Gujarat. Mae gan pob un o'r ardaloedd hyn ei chanolfannau siopio a chymuned ei hun ynghyd ag ysgol gynradd, canolfan iechyd a thai preifat a chyhoeddus. Ceir nifer o barciau yn y ddinas, yn enwedig ar lan Afon Sabarmati, sy'n creu awyrgylch 'dinas gerddi'.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.