Arunachal Pradesh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arunachal Pradesh

Mae Arunachal Pradesh (Hindi: अरुणाचल प्रदेश Aruṇācal Pradeś) yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Er bod China hefyd yn hawlio'r diriogaeth yma, ac weithiau'n cyfeirio ati fel "De Tibet", mae'r cyfan ym meddiant India. Mae Arunachal Pradesh yn ffinio a Bhwtan yn y gorllewin, a China yn y gogledd ac a Myanmar yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n ymestyn i fynyddoedd yr Himalaya, tra mae dyffryn Afon Brahmaputra yn y de. Daeth yn dalaith ar 20 Chwefror 1987.

Itanagar yw prifddinas y dalaith. Roedd y boblogaeth yn 1,097,968 yn 2001 gyda chanran llythrennedd o 54.74%. Mae 65% o'r boblogaeth yn perthyn i tua 20 o grwpiau ethnig o darddiad Tibetaidd a Thai-Bwrmaidd; tra mae'r 35% arall wedi mewnfudo, yn enwedig o rannau eraill o Inia ac o Bangladesh. Y prif lwythau yw'r Adi, Nishi, Monpa ac Apatani. Mae 36% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Animistiaeth, 37% yn ddilynwyr Hindwaeth, 13% yn ddilynwyr Bwdhaeth ac 13% yn Gristionogion.


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJammu a KashmirJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliTiriogaeth Genedlaethol DelhiDaman a DiuLakshadweepPuducherry (Pondicherry)