Madhya Pradesh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Madhya Pradesh yn India

Mae Madhya Pradesh (Hindi: मध्य प्रदेश, "Talaith Ganol"), a elwir weithiau yn 'Galon India', yn dalaith yng nghanolbarth India. Ei phrifddinas yw Bhopal ond Indore yw'r ddinas fwyaf. Cyn 1 Tachwedd 2000, Madhya Pradesh oedd talaith fwyaf India, ond collodd yr ardaloedd sy'n ffurfio talaith newydd Chhattisgarh. Mae Madhya Pradesh yn rhannu ffin â thaleithiau Uttar Pradesh i'r gogledd, Chhattisgarh i'r dwyrain, Maharashtra i'r de, a Gujarat a Rajasthan i'r gorllewin. Mae ganddi arwynebedd tir o 306,144 km² a phoblogaeth o 60,385,118 (y seithfed fwyaf yn India). Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn wastadir uchel ac yn medru bod yn boeth iawn yn yr haf. Hindi yw'r iaith swyddogol.

Merch ifanc o lwyth adivasi (Bhil), dosbarth Raisen, Madhya Pradesh, India.

Mae gan Madhya Pradesh hanes hir a diddorol. Roedd yn ganolfan i ymerodraeth Ashoka, yr ymerodr mawr Bwdhaidd a greuodd yr Ymerodraeth Mauryaidd â'i phrifddinas ym Malwa. Mae olion hanesyddol yn cynnwys y temlau byd-enwog yn Khajuraho â'u cerfluniau erotig, a Gwalior a'i chaer ramantaidd.


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJammu a KashmirJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliTiriogaeth Genedlaethol DelhiDaman a DiuLakshadweepPuducherry (Pondicherry)