Haryana
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng ngogledd-orllewin India yw Haryana (Hindi: हरियाणा, Punjabi: ਹਰਿਆਣਾ). Mae ganddi boblogaeth o 21,082,969.
Daeth i fodolaeth yn gymharol ddiweddar pan rannwyd yr hen Punjab Indiaidd yn ddwy ran yn 1966, gan greu Haryana yn y dwyrain a gadael gweddill y dalaith (Punjab (India)) yn y gorllewin. Ond erys rhith o undod gan fod y ddwy dalaith yn rhannu'r un brifddinas, sef Chandigarh, sydd ei hun yn diriogaeth hunanlywodraethol. Mae'n ffinio â'r Punjab i'r gorllewin, Himachal Pradesh i'r gogledd, Uttar Pradesh a Tiriogaeth Genedlaethol Delhi i'r dwyrain, a Rajasthan i'r de. Mae Afon Yamuna yn llifo ar hyd ffin ddwyreiniol y dalaith. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Hindŵ.