Pwnjabeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Punjabi)
Pwnjabeg
Enghraifft o'r canlynoliaith fyw, iaith naturiol Edit this on Wikidata
MathPunjabi dialects and languages Edit this on Wikidata
LleoliadPunjab, Kashmir Edit this on Wikidata
Enw brodorolپنجابی Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 125,000,000 (2021)[1]
  • cod ISO 639-3pan, pnb Edit this on Wikidata
    GwladwriaethPacistan, India, y Deyrnas Unedig, Cenia, Maleisia, De Affrica, Bangladesh, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Canada, Gwlad Tai, Ffiji, Affganistan, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Unol Daleithiau America, Awstralia, Singapôr, Unknown Edit this on Wikidata
    RhanbarthAzad Kashmir, Jammu a Kashmir, Unknown, Gorllewin Bengal, Punjab, Haryana, Delhi, Punjab, Islamabad Capital Territory Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuShahmukhi, Gurmukhi, Urdu orthography Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioDepartment of Languages, Punjab, Punjab Institute of Language, Art, and Culture Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Iaith Indo-Ewropeaidd a siaradir yn rhanbarth ddaearyddol Punjab ar isgyfandir India yw Pwnjabeg.[2] Mae'n perthyn i is-deulu'r ieithoedd Indo-Iraneg ac yn agos iawn i Wrdw.

    Cadarnle'r Bwnjabeg yw talaith y Punjab yn India a thalaith y Punjab ym Mhacistan. Ceir yn ogystal nifer o siaradwyr Pwnjabeg yn nhaleithiau Rajasthan ac Uttar Pradesh. Mae'n iaith swyddogol talaith Punjab India.

    Yn nhermau daearyddiaeth ieithyddol, mae'r iaith yn ffinio â'r ieithoedd Lahnda i'r gogledd (Jammu a Kashmir), Rajastani i'r de, Hindi i'r dwyrain a Pahari Orllewinol a Dardeg i'r gogledd-ddwyrain.

    Yn niwylliannol mae gan yr iaith Bwnjabeg gysylltiad cryf â chrefydd Siciaeth, a sefydlwyd ar ddiwedd y 15g. Dyfeisiwyd yr wyddor Gurmukhi, seiliedig ar Nagari (gwyddor Hindi ac ieithoedd eraill). Cyn y 19g, Perseg ac Wrdw oedd ieithoedd llenyddol y Punjab, ond gyda thyfiant ymwybyddiaeth gymunedol y Siciaid daethpwyd i ddefnyddio'r iaith lafar fwyfwy fel cyfrwng llenyddol ac erbyn heddiw mae llenyddiaeth Bwnjabeg wedi hen ennill ei phlwyf.

    Geiriaduron ar-lein[golygu | golygu cod]

    Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
    Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
    1. https://m.tribuneindia.com/news/punjab/12-5-crore-people-are-speaking-punjabi-worldwide-today-220786. dyddiad cyrchiad: 22 Mehefin 2022.
    2. Geiriadur yr Academi, "Punjabi".