Wrdw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Iaith a siaredir ym Mhacistan a gogledd India yw Wrdw neu Urdu (اردو, traws. Urdū). Mae'n iaith sy'n perthyn i'r gangen Indo-Irananidd o'r teulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Wrdw yw iaith swyddogol Pacistan, ac mae'n un o ieithoedd swyddogol India. O ran nifer o siaradwyr brodorol, mae oddeutu'r ugeinfed safle ymhlith ieithoedd y byd.

Ffurf ar Hindustani yw Wrdw. Mae'r iaith Hindi yn ffurf arall ar Hindustani. Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy iaith yw'r sgript a ddefnyddir; mae Wrdw'n defnyddio'r Sgript Berso-Arabaidd, tra mae Hindi'n defnyddio'r sgript Devanāgarī.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.