Tripura
Oddi ar Wicipedia
Mae Tripura yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India. Mae'n ffinio ar Bangladesh yn y gogledd, y de a'r gorllewin, ac mae taleithiau Indiaidd Assam a Mizoram i'r dwyrain. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,191,168. Y brifddinas yw Agartala, a'r prif ieithoedd yw Bengaleg a Kokborok (a elwir hefyd yn Tripuri).
Roedd Tripuri yn deyrnas annibynnol cyn cael ei hymgorffori yn India trwy gytundeb ar 15 Hydref 1949.