Bhopal
Oddi ar Wicipedia
Bhopāl (Hindi: भोपाल ) yw prifddinas talaith Madhya Pradesh yn India, a'r ail-fwyaf o ddinasoedd Madhya Pradesh ar ôl Indore. Adwaenir Bhopal fel "Dinas y Llynnoedd" oherwydd y nifer o lynnoedd naturiol ac wedi eu creu sydd o amgylch y ddinas.
Daeth y ddinas yn adnabyddus trwy'r byd oherwydd Trychineb Bhopal, pan gollynwyd y nwy gwenwynig methyl isoseianid o ffatri Union Carbide yn ystod nos 3 Rhagfyr 1984. Lladdwyd miloedd yn y ddinas a'r cyffiniau, ac mae miloedd eraill yn parhau i ddioddef yr effeithiau dros ugain mlynedd yn ddiweddarach.
[golygu] Enwogion
- Shankar Dayal Sharma (1918-1999), Arlywydd India
- Jaya Bachchan, actores (g. 1948)
- Kaif Bhopali, bardd