Abuja
Oddi ar Wicipedia
Abuja yw prifddinas Nigeria yng Ngorllewin Affrica. Saif yng nghanolbarth y wlad, ac amcangyfrifir fod y boblogaeth tua 500,000.
Yn 1976, penderfynwyd fod angen cael prifddinas arall, fwy canolog, yn lle Lagos, dinas fwyaf y wlad. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu prifddinas newydd, mor agos ag oedd modd at ganol y wlad, yn ei Rhanbarth Ffederal ei hun. Yn 1991. daeth Abuja yn brifddinas swyddogol Nigeria.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Mosg genedlaethol Nigeria
- Parc Mileniwm
- Tŵr Churchgate
- Tŷ Llong
- Tŷ'r Arlywydd
[golygu] Enwogion
- Abiodun Baruwa (g. 1974), chwaraewr pêl-droed