Newcastle upon Tyne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Newcastle u tyne brueckenpanorama.jpg
Newcastle upon Tyne
Coat of arms of Newcastle upon Tyne City Council.png
Dinas Newcastle upon Tyne (bwrdeistref fetropolitanaidd)
EnglandNewcastle.png
Lleoliad Newcastle upon Tyne
Sir seremonïol Tyne a Wear
Sir hanesyddol {{{sir_hanesyddol}}}
Daearyddiaeth
Arwynebedd 113.4 km²
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) 259,536
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 276,400
Gwleidyddiaeth
Aelod seneddol Nick Brown, David Clelland, Jim Cousins, Doug Henderson

Dinas yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ar Afon Tyne yw Newcastle upon Tyne neu Newcastle. Mae'n fwrdeistref fetropolitanaidd yn sir Tyne a Wear.

Hanes[golygu]

Yn y cyfnod Rhufeinig safai Pons Aelius, un o geyrydd y Rhufeiniaid ar hyd Mur Hadrian, ar safle presennol Newcastle. Adeiladwyd castell Normannaidd yno tua 1080, ar adfeilion tref Eingl-Sacsonaidd Monkchester, gan Robert Curthose, mab Gwilym I. Hwn oedd y castell newydd y mae'r ddinas yn cael ei henw ganddo. Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Newcastle yn gaer bwysig, roedd yn amddiffyn ffin ogleddol Lloegr yn erbyn yr Alban. Yn yr bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd Newcastle fel porthladd allforio glo o lofeydd Durham ac fel canolfan adeiladu llongau a pheirianyddiaeth drwm. Ar sail cyfoeth y Chwyldro Diwydiannol, ailadeiladwyd canol y ddinas mewn arddull neoglasurol yn y 1830au. Mae pensaernïaeth Grey Street yn nodweddiadol o'r arddull hon. Adeiladwyd Pont Tyne ym 1928. Yn ystod y 1990au cafodd ardal Glan y Cei ei hailddatblygu, ac adeiladwyd Pont y Mileniwm yn cysylltu Newcastle â thref gyfagos Gateshead a'r datblygiadau diwylliannol newydd yno.

Gefeilldrefi[golygu]