Durban

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Neuadd y Ddinas, Durban

Dinas yn nhalaith KwaZulu-Natal, De Affrica yw Durban (Swlw: eThekwini). Hi yw dinas fwyaf KwaZulu-Natal a thrydedd dinas De Affrica o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 3,346,799.

Durban yw porthladd mwyaf De Affrica, ac mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Sefydlwyd y ddinas yn 1823 fel Port Natal; newidiwyd yr enw i Durban yn 1835, er anrhydedd i'r llywodraethwr Syr Benjamin D'Urban.

Bu Mahatma Gandhi yn gweithio fel cyfreithiwr yn Durban am flynyddoedd.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill