Bradford
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng Ngorllewin Efrog, yng ngogledd Lloegr yw Bradford. Daeth yn dref ddiwydiannol gyfoethog yn y 19eg ganrif. Gwnaethpwyd yn fwrdeisdref yn 1847 ac yn ddinas yn 1897.
Hanes [golygu]
Roedd Bradford am amser hir yn ganolfan i'r diwydiant gwlân yn Riding Gorllewinol Efrog. Daw'r enw o'r 'Rhyd Lydan' (Broad Ford) a oedd yn agos i'r lle mae'r eglwys gadeiriol yn sefyll nawr. Roedd Bradford yn bodoli fel pentref cyn y Goresgyniad Normanaidd.
Nid oes afon fawr ynddi, ond mae'r nant, sef y Bradford Beck, yn rhedeg tuag at Afon Aire tua Shipley.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Cofadeilad y Bradford Pals
- Eglwys gadeiriol
- Neuadd Cartwright
- Neuadd St George
- Neuadd y dinas
- Sinema Pictureville
Enwogion [golygu]
- Samuel Lister (1815-1906), dyfeisiwr
- Charlotte Bronte (1816-1855), nofelydd a bardd
- Emily Bronte (1818-1848), nofelydd a bardd
- Anne Bronte (1820-1849), nofelydd a bardd
- J. B. Priestley (1894-1984), dramodydd
- Albert Pierrepoint (1905-1992), dienyddiwr
- David Hockney (g. 1937), arlunydd
- Richard Whiteley (1943-2005), cyflwynydd teledu
- Kiki Dee (g. 1947), cantores
- Gareth Gates (g. 1984), canwr
- Brian Noble (g. 1961), chwaraewr rygbi