Portsmouth, Hampshire
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Portsmouth (gwahaniaethu).
Dinas a phorthladd ar arfordir de Lloegr yw Portsmouth (Cymraeg: Llongborth). Gorwedd y ddinas yn swydd Hampshire gyferbyn i Gosport. Harbwr Portsmouth yw prif wersyll llynges y DU. Mae Portsmouth yn borthladd masnachol mawr hefyd ac mae nifer o longau pleser yn cychwyn oddi yno yn ogystal. Mae'n gartref i atyniadau twristaidd fel HMS Victory, banerlong Nelson, a chartref Charles Darwin sy'n amgueddfa iddo erbyn heddiw.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa D-Day
- Genesis Expo
- Porthladd Hanesyddol
- Tŵr Spinnaker
Pobl o Bortsmouth [golygu]
- Charles Dickens (1812-1870), nofelydd
- Richard Aldington (1892-1962), bardd
- Olivia Manning (1908-1980), nofelydd
- Paul Jones (g. 1942), canwr
- Alan Pascoe (g. 1947), athletwr