Andover

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Melin Rooksbury yn Andover

Tref yn Hampshire, Lloegr yw Andover. Saif ar Afon Anton, 19 o filltiroedd (30 km) i'r gorllewin o Basingstoke, 19 o filltiroedd (30 km) i'r gogledd-orllewin o Gaerwynt a 25 o filltiroedd (40 km) i'r gogledd o Southampton.

Ffurf Hen Saesneg ar yr enw oedd Andeferas. Enw Celtaidd yw hwn yn wreiddiol, o elfen gyntaf a geir yn y Gymraeg fel onn, ac ail elfen, Brythoneg *dubrī 'dyfroedd', felly 'dyfroeddd yr onn'. Mae'r terfyniad -as yn derfyniad lluosog Hen Saesneg, sy'n awgrymu i'r Saeson ddeall ystyr yr enw Brythoneg pan gyrhaeddon nhw'r dref.

[golygu] Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa'r Oes y Haearn
  • Melin Rooksbury

[golygu] Enwogion

[golygu] Ffynonellau

  • Coates, Richard. 1989. The place-names of Hampshire: based on the collection of the English Place-Name Society. Llundain: Batsford.
  • Jackson, Kenneth. 1953. Language and history in early Britain. Caeredin: Edinburgh University Press, t. 285.
Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill