Onnen
| Onnen | |
|---|---|
| Fraxinus ornus | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Lamiales |
| Teulu: | Oleaceae |
| Llwyth: | Oleeae |
| Genws: | Fraxinus L.[1] |
| Rhywogaethau | |
|
Tua 45–65 |
|
Coeden sy'n perthyn i'r genws Fraxinus o'r teulu Oleaceae (teulu'r olewydd a'r lelog) yw onnen (Saesneg: ash). Ceir cryn nifer o rywogaethau yn y genws hwn yn enwedig yng Ngogledd America, Ewrop ac Asia. Maent yn goed mawr neu gweddol fawr. Yr onnen gyffredin yng Nghymru yw'r Onnen Ewropeaidd, Fraxinus excelsior.
Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae'n goeden hawdd ei hadnabod yn yr hydref o'r'hadau hofrennydd' sy'n disgyn ohoni. Ffrwyth ydy'r henyn hwn, yn wyddonol, a elwir yn samara. Nid yw'r gerddinen yn perthyn i'r Fraxinus, er fod y dail a'r egin yn edrych yn union yr un peth, eithr mae'n perthyn i'r genws Sorbus.
Cynnwys |
Ecoleg [golygu]
Mae nifer o loynnod byw a gwyfynod yn byw ac yn bwyta'r onnen gan gynnwys Teigr ôl-adain goch, Teigr cochddu, Gwyfyn drewllyd, y Llewpart, Brith y cyrens, Carpiog y gwyddfid, Gwyfyn teires y Gogledd, Brychan cochwyrdd, Carpiog pluog, Rhisglyn minfylchog bach, Carpiog mawr, Carpiog tywyll, Brychan Tachwedd, Pwtyn yr ynn, Rhisglyn brith, Carpiog y cyll, Brychan y gaeaf, Gwregys dau smotyn, Carpiog lloerennog, Carpiog porffor, Brychan y rhafnwydd, Gwyfyn Rhagfyr, Siobyn cynffon frown, Siobyn y sipsi, Siobyn, Ôl-adain gopor, Oren coch, Melyn yr onnen, Ôl-adain las a'r Ôl-adain goch.
Hymenoscyphus pseudoalbidus [golygu]
Adnabyddwyd y ffwng Hymenoscyphus pseudoalbidus am y tro cyntaf yn 2006 dan yr enw Chalara fraxinea.[2] Mae'n tyfu ar yr onnen yn ystod yr haf ac mae'r sborau'n ymledu gan y gwynt.[3] Ataliwyd mewnforio pren a choed yr onnen i fewn i wledydd Prydain gan ddeddfwriaeth yn Hydref 2012.[4]
Rhywogaethau [golygu]
- Dwyrain Gogledd America
- Fraxinus americana
- Fraxinus caroliniana
- Fraxinus nigra
- Fraxinus pennsylvanica
- Fraxinus profunda (sin. F. tomentosa)
- Fraxinus quadrangulata
- Gorllewin a de-orllewin Gogledd America
- Fraxinus anomala
- Fraxinus cuspidata
- Fraxinus dipetala
- Fraxinus dubia
- Fraxinus gooddingii
- Fraxinus greggii
- Fraxinus latifolia
- Fraxinus papillosa
- Fraxinus purpusii
- Fraxinus rufescens
- Fraxinus texensis
- Fraxinus uhdei
- Fraxinus velutina
- Y Palaearctig gorllewinol (Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia)
- Fraxinus angustifolia
- Fraxinus angustifolia var. oxycarpa (F. oxycarpa)
- Fraxinus excelsior
- Fraxinus holotricha
- Fraxinus ornus
- Fraxinus pallisiae
- Y Palaearctig dwyreiniol (canolbarth a dwyrain Asia)
- Fraxinus apertisquamifera
- Fraxinus baroniana
- Fraxinus bungeana
- Fraxinus chinensis
- Fraxinus chiisanensis
- Fraxinus floribunda
- Fraxinus griffithii
- Fraxinus hubeiensis
- Fraxinus lanuginosa
- Fraxinus longicuspis
- Fraxinus malacophylla
- Fraxinus mandshurica
- Fraxinus mariesii
- Fraxinus micrantha
- Fraxinus paxiana
- Fraxinus platypoda
- Fraxinus raibocarpa
- Fraxinus sieboldiana
- Fraxinus spaethiana
- Fraxinus trifoliata
- Fraxinus xanthoxyloides
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Fraxinus L.". Germplasm Resources Information Network. United States Department of Agriculture. 2006-04-03. http://www.ars-grin.gov/cgi-bin/npgs/html/genus.pl?4752. Adalwyd 2010-02-22.
- ↑ "FRAXBACK - Category: Chalara". FRAXBACK. http://www.fraxback.eu/index.php?view=category&catid=8&option=com_joomgallery&Itemid=465. Adalwyd 31 Hydref 2012.
- ↑ "Chalara dieback of ash (Chalara fraxinea)". Y Comisiwn Coedwigaeth. http://www.forestry.gov.uk/chalara. Adalwyd 27 Hydref 2012.
- ↑ David Batty and agencies (27 October 2012). "Ash tree ban may be too late to avert 'UK tragedy', says expert". The Guardian. http://www.guardian.co.uk/environment/2012/oct/27/ash-tree-ban-uk-tragedy. Adalwyd 29 Hydref 2012.