Reggio Calabria
Oddi ar Wicipedia
Dinas a phorthladd yn ne'r Eidal yw Reggio Calabria neu Reggio di Calabria. Fe'i lleolir yn ne-orllewin rhanbarth Calabria. Mae'n gorwedd ar lan Culfor Messina gyferbyn i ddinas Messina dros y culfor yn Sisili; mae gwasanaeth fferi prysur yn cysylltu'r ddwy ddinas. Mae poblogaeth o 190,000 yn y ddinas a tua 450,000 yn yr ardal metropolaidd
Mae'n ddinas hynafol a sefydlwyd gan y Groegiaid. Rhegion oedd yr enw gwreiddiol.