Patras

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Odeum Rhufeinig, Patras

Dinas yng ngogledd y Peloponnesos yng Ngwlad Groeg a phrifddinas perifferi Gorllewin Groeg a nome Achaea yw Patras (Groeg: Πάτρα Pátra). Pedwaredd ddinas fwyaf y wlad yw hi, ar ôl Athen, Thessaloniki, a Piraeus.

Saif y ddinas ar lethrau isaf Mynydd Panachaikon, gerllaw Gwlff Patras, 215 km i'r gorllewin o Athen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 171,616, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 210,494. Roedd yn ddinas bwysig yn y cyfnod Rhufeinig, ac yn ôl traddodiad, yma y merthyrwyd Sant Andreas, brawd Simon Pedr.

Yn 2004, cwblhawyd Pont Rio-Antirio, sy'n cysylltu Rio, maesdref yn nwyrain Patras, a thref Antirrio ar lan arall Gwlff Corinth.