Pont Rio-Antirio

Oddi ar Wicipedia
Pont Rio-Antirio
Mathpont ffordd, pont gablau Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol7 Awst 2004 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Awst 2004 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolA5 motorway, Llwybr Ewropeaidd E55 Edit this on Wikidata
LleoliadRio, Antirrio Edit this on Wikidata
SirWest Greece Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Cyfesurynnau38.3214°N 21.7728°E Edit this on Wikidata
Hyd2,880 metr Edit this on Wikidata
Map
Deunydddur Edit this on Wikidata

Pont yng Ngwlad Groeg yw Pont Rio-Antirio (Groeg: Γέφυρα Ρίου-Αντιρρίου), yn swyddogol "Pont Charilaos Trikoupis" ar ôl y gwleidydd a gafodd y syniad. Mae'n bont gablau sy'n croesi Gwlff Corinth o dref Rio gerllaw Patras ar y Peloponnesos i dref Antirio ar y tir mawr.

Gwleidydd yn y 19g oedd Charilaos Trikoupis, a awgrymodd adeiladu pont rhwng Rio ac Antirio i gael cysylltiad heblaw Isthmws Corinth i'r Peloponnesos; ond nid oedd arian ar gael i'w hadeiladu ar y pryd. Dechreuwyd adeiladu'r bont yng nghanol y 1990au, ac fe'i cwblhawyd yn 2004. Mae'r bont yn 2,880 medr o hyd a 28 medr o lêd.

Mesuriadau'r bont.