Peloponnesos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Peloponnesos

Penrhyn yn ne Gwlad Groeg ac un o Beriffereiau Groeg yw'r Peloponnesos (Groeg: Πελοπόνησος Pelopónnisos). Ffurfia'r rhan o dir mawr Groeg sydd i'r de o Gwlff Corinth, ac fe'i cysyllrir a'r gweddill o dir mawr Groeg gan Isthmws Corinth. Ers adeiladu Camlas Corinth yn 1893, gellir ei ystyried yn dechnegol yn ynys. Nid yw Perifferi Peloponnesos yn cynnwys y cyfan o'r Peloponnesos daearyddol; mae rhan o hwnnw ym mheriffereiau Gorllewin Groeg ac Attica.

Heblaw am y cysylltiad dros y tir, neu yn awr ar draws Camlas Corinth, cysylltir y Peloponnesos a'r gweddill o Wlad Groeg gan bont, Pont Rio-Antirio a orffenwyd yn 2004, ar draws Gwlff Corinth.

Mae gan y Peloponnesos arwynebedd o 21,549 km² (8,320 milltir sgwar). Ardal fynyddig ydyw; y copa uchaf yw Mynydd Taygetus. Mae pedwar penrhyn, Messenia, Penrhyn Mani, Penrhyn Malea (neu Epidaurus Limera), ac Argolis.

Prif ddinasoedd y Peloponnesos, gydag ystadegau poblogaeth 2001, yw:

Ceir nifer o safleoedd archaeolegol pwysig iawn yn y Peloponnesos hefyd, yn eu plith Epidaurus, Mycenae, Olympia a Tiryns, yn ogystal a hen ddinasoedd Corinth a Sparta.