Ancona

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ancona o'r awyr.

Porthladd ar arfordir dwyreiniol yr Eidal a phrifddinas rhanbarth Marche yw Ancona. Saif ar y Môr Adriatig, 210 km i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Rhufain a 200 km i'r de-ddwyrain o Bologna. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 101,210.

Dinas Roegaidd oedd Ancona yn wreiddiol; fe'i sefydlwyd o Siracusa tua 390 CC. Daw'r enw Ancona o'r Groeg Αγκων, "penelin", o ffurf y penrhyn ger yr harbwr.