Calabria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Calabria
Baner Calabria

Rhanbarth yn ne-orllewin yr Eidal yw Calabria (Lladin: Brutium). Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 2,004,415. Y brifddinas yw Catanzaro; dinasoedd pwysig eraill yw Reggio Calabria a Cosenza.

Mae Calabria yn ffurfio penrhyn yn pwyntio tua'r de-orllewin, a Chulfor Messina, dim ond 3.2 km yn ei fan gulaf, yn ei wahanu oddi wrth ynys Sicilia. Dim ond ag un rhanbarth arall y mae ganddo ffîn, sef Basilicata yn y gogledd. Mae'r rhanbarth yn ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Pollino, La Sila ac Aspromonte.

Yn y cyfnod cynnar, roedd yr ardal yn rhan o Magna Graecia, gyda nifer o ddinasoedd Groegaidd adnabyddus megis Rhegion (Reggio Calabria), Sybaris, Kroton (Crotone), a Locri. Concrwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid yn y 3edd ganrif CC.


Rhanbarthau 'r Eidal Baner yr Eidal
Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto
Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta