Basilicata
Oddi ar Wicipedia
| Prifddinas | Potenza |
| Arlywydd | Vito De Filippo |
| Taleithiau | Matera Potenza |
| Bwrdeistrefi | 131 |
| Arwynebedd | 9,995 km2 |
| - Safle | 14fed (3.3) % |
| Poblogaeth - Cyfanswm - Safle |
611,000 18fed 1.0 % 59/km2 |
![]() |
|
| Lleoliad Basilicata yn yr Eidal | |
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Basilicata. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 611,000. Y brifddinas yw Potenza.
Mae Basilicata yn ffinio ar ranbarthau Campania yn y gorllewin, Calabria yn y de-orllewin ac Apulia (Puglia) yn y dwyrain. Yn y de-ddwyrain mae Bae Taranto yn ffîn.
Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys Monte Pollino, copa uchaf rhan ddeheuol mynyddoedd yr Apenninau, 2,233 medr o uchder. Yn hanesyddol, roedd yn un o ranbarthau tlotaf yr Eidal, gyda llawer o allfudo, ond mae'r economi wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid yr ardal yn Lucania.
[golygu] Cysylltiad allanol
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol
| Rhanbarthau 'r Eidal | |
|---|---|
| Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
| Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta | |
