Umbria
Oddi ar Wicipedia
| Prifddinas | Perugia |
| Arlywydd | Maria Rita Lorenzetti |
| Taleithiau | Perugia Terni |
| Bwrdeistrefi | 92 |
| Arwynebedd | 8,456 km2 |
| - Safle | 16fed (7.6) % |
| Poblogaeth - Cyfanswm - Safle |
892,351 17fed 1.5 % 105.8/km2 |
![]() |
|
| Lleoliad Umbria yn yr Eidal | |
Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Umbria. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 867,878. Y brifddinas yw Perugia; dinas bwysig arall yw Terni, ac mae Assisi yn y rhanbarth yma.
Mae Umbria yn ffinio ar ranbarthau Toscana yn y gorllewin, Marche yn y dwyrain a Lazio yn y de. Ceir mynyddoedd yr Apenninau yn nwyrain y dalaith; y copa uchaf yw Monte Vettore, 2,476 medr o uchder. Mae afon Tiber yn llifo trwy'r rhanbarth ac yn ffurfio'r ffîn a Lazio.
Cafodd y rhanbarth ei enw oddi wrth lwyth yr Umbri, a ymsefydlodd yn yr ardal yn y 6ed ganrif CC. Yn ddiweddarach, concrwyd llawer o'r diriogaeth gan yr Etrwsciaid, yna meddiannwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid.
Dolenni allanol [golygu]
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol y Rhanbarth
| Rhanbarthau 'r Eidal | |
|---|---|
| Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
| Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta | |
