Marche

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Marche
Baner Marche

Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Marche. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,542,106. Y brifddinas yw Ancona; dinasoedd eraill yw Pesaro a Fano.

Mae Marche yn ffinio ar ranbarth Emilia-Romagna a gweriniaeth San Marino yn y gogledd, Toscana yn y gogledd-orllewin, Umbria yn y gorllewin ac Abruzzo a Lazio yn y de. Yn y dwyrain mae'r Môr Adriatig.

Yn y cyfnod Rhyfeinig, adwaenid yr ardal fel Picenum. Trigai llwyth Galaidd y Senones ger yr arfordir. Daw'r enw presennol o le marche de Ancona, ac mae'n lluosog.


Rhanbarthau 'r Eidal Baner yr Eidal
Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto
Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta