Valle d'Aosta
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Valle d'Aosta (Ffrangeg: Vallée-d'Aoste neu Val-d'Aoste). Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 123,978. Y brifddinas yw Aosta.
Saif Valle d'Aosta yn yr Alpau, ac mae'n cynnwys Mont Blanc a'r Matterhorn, y ddau ar y ffîn. Mae'n ffinio ar Ffrainc yn y gorllewin, y Swistir yn y gogledd a rhanbarth Piemonte yn y de a'r dwyrain. Valle d'Aosta yw'r lleiaf o rhanbarthau'r Eidal o ran poblogaeth, a'r unig un nad yw wedi ei rannu'n daleithiau. Siaredir Ffrangeg gan gyfran o'r boblogaeth, ac mae'r Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol y rhanbarth gydag Eidaleg. Siaredir tafodiiaith o Almaeneg mewn rhai rhannau hefyd.
| Rhanbarthau 'r Eidal | |
|---|---|
| Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
| Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta | |
