Haute-Savoie
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Rhône-Alpes yn ne-ddwyrain y wlad yw Haute-Savoie. Ei phrifddinas weinyddol yw dinas Annecy. Mae'r département yn gorwedd ar y ffin â'r Swistir a'r Eidal yn uchel yn yr Alpau Ffrengig. Mae Savoie yn ffinio â départements Ffrengig Savoie, ac Ain. Gorwedd hanner deheuol Llyn Genefa (Lac Léman) yn Haute-Savoie. Mae'n denu miloedd o ymwelwyr i weld y mynyddoedd; un o'r prif ganolfannau yw Chamonix, ger Mont Blanc, copa uchaf yr Alpau.
Mae'r prif drefi yn cynnwys: