Aosta

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aosta.

Dinas yng ngogledd yr Eidal a phrifddinas rhanbarth Valle d'Aosta yw Aosta (Ffrangeg: Aoste). Saif yn yr Alpau Eidalaidd, 110 km i'r gogledd-orllewin o Torino. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 34,270. Mae ochr Eidalaidd Twnel Mont Blanc yn dechrau gerllaw.

Roedd Aosta yn ddinas llwyth Celto-Ligwraidd y Salassi. Cipiwyd hi gan Rufain dan Terentius Varro yn 25 CC, ac fel Augusta Praetoria daeth yn brifddinas Alpes Graiae.