Abruzzo
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth yn rhan ddwyreiniol canolbarth yr Eidal yw Abruzzo. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,316,366. Y brifddinas yw L'Aquila.
Mae Abruzzo yn ffinio ar ranbarthau Marche yn y gogledd, Lazio yn y gorllewin a Molise yn y de-ddwyrain, tra mae'r Môr Adriatig yn ffîn ddwyreiniol. Er ei fod yng nghanolbarth y wlad, ar gyfer pwrpas ystadegau, fe'i hystyrir yn rhan o dde yr Eidal. Rheswm hanesyddol sydd am hyn, oherwydd i'r Abruzzo fod yn rhan o Deyrnas y Ddwy Sicilia.
Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys y Gran Sasso d'Italia, copa uchaf yr Apenninau, 2,914 medr o uchder. Ceir nifer o barciau cenedlaethol a gwarchodfeydd yma, ac mae'r Arth frown, y blaidd a'r chamois i'w cael yma.
Gweler hefyd [golygu]
| Rhanbarthau 'r Eidal | |
|---|---|
| Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
| Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta | |
