Daeargryn L'Aquila 2009

Oddi ar Wicipedia
Daeargryn L'Aquila 2009
Enghraifft o'r canlynolDaeargryn Edit this on Wikidata
Dyddiad6 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Lladdwyd309 Edit this on Wikidata
LleoliadAbruzzo Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o'r ardal a effeithiwyd

Roedd y ddaeargryn a darrodd L'Aquila, Abruzzo, yn yr Eidal ar y 6ed o Ebrill 2009 yn mesur 6.3 ar y graddfa moment. Cafwyd nifer o gryniadau bach rhwng mis Ionawr a'r digwyddiad, gan gynnwys tirgryniad o 4.0 ar y 30 o Fawrth, 2009. Roedd y rhan fwyaf o'r dinistr yn ninas ganoloesol L'Aquila (prifddinas ardal Abruzzo) a phentrefi cyfagos. Bu farw dros 150 o bobl yn ystod y 24 awr cyntaf. Erbyn y 10fed o Ebrill, 2009, gŵyr fod o leiaf 289 o bobl wedi marw,[1] gyda 10 person dal ar goll.[2] Yn y bôn, bu farw 308 o bobl.[3] Dyma'r ddaeargryn fwya dinistriol yn yr Eidal ers daeargryn Irpinia 1980.

Yn 2012 cafodd chwe gwyddonydd a chyn-swyddog o Lywodraeth yr Eidal eu dedfrydu i garchar am chwe blynedd yr un am ddynladdiad. Honodd yr erlynwyr bod y saith wedi gwneud cyhoeddiadau camarweiniol cyn i’r ddaeargryn daro.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Italy mourns earthquake victims Newyddion BBC. Adalwyd 10-04-2009
  2. (Saesneg) "Italy death toll rises to 275".[dolen marw] Associated Press. 2009-04-09. Adawlyd 2009-04-09.
  3. (Saesneg) Camilli, Annalisa (22 Hydref 2012). 7 experts convicted for not warning of quake risk. Associated Press. Google News. Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  4.  Daeargryn L’Aquila: Saith yn euog o ddynladdiad. Golwg360 (22 Hydref 2012). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.