Môr Adria

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Môr Adriatig)
Môr Adria
Mathmôr, basn draenio Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAdria Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal, Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania, Bosnia a Hertsegofina Edit this on Wikidata
Arwynebedd138,595 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Eidal, Balcanau Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.77583°N 15.42611°E Edit this on Wikidata
Map

Braich neu gilfach o'r Môr Canoldir yw Môr Adria[1] neu'r Môr Adriatig. Mae'n ymestyn rhwng arfordir dwyreiniol Yr Eidal a de-ddwyrain Ewrop (Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania) yng nghanolbarth gogledd y Môr Canoldir. Ceir cyferbyniaeth drawiadol rhwng y ddau arfordir: isel a thywodlyd yw arfordir yr Eidal tra fod yr arfordir dwyreiniol yn greigiog gyda nifer o ynysoedd mawr a bach. Yn ei ben eithaf mae'r môr yn gorffen yn Gwlff Fenis. Ei hyd yw tua 750 km (466 milltir).

Mae'r prif ddinasoedd ar ei lannau yn cynnwys Brindisi, Bari, Fenis, Trieste, Dubrovnik, Split a Rijeka.

Dominyddir ei lannau dwyreiniol gan gadwyn mynyddoedd yr Alpau Dinarig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 50.


Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.