Molise
Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Molise. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 320,907. Y brifddinas yw Campobasso. Ffurfiwyd y rhanbarth yn 1963; cyn hynny roedd yn ffurfio rhanbarth Abruzzi e Molise gydag Abruzzo.
Mae Molise yn ffinio ar ranbarthau Abruzzo yn y gogledd-orllewin, Lazio yn y gorllewin, Campania yn y de a Puglia yn y de-ddwyrain, tra mae'r Môr Adriatig yn ffîn yn y gogledd-ddwyrain. Mae'n un o ranbarthau lleiaf cyfoethog yr Eidal, ac mae diboblogi yn broblem.
| Rhanbarthau 'r Eidal | |
|---|---|
| Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
| Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Valle d'Aosta | |
