Campobasso
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne yr Eidal a phrifddinas rhanbarth Molise yw Campobasso. Saif yn nyffryn uchaf afon Biferno.
Mae Campobasso yn enwog am gynhyrchu llafnau o wahanol fathau, yn cynnwys cyllyll a sisyrnau, a hefyd am gaws scamorza. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu fel caer gan y Lombardiaid cyn yr 8fed ganrif. Y prif atyniad yw'r Castello Monforte, a adeiladwyd yn 1450 gan Nicola II Monforte.